Ffurflenni cais a Dogfennau Canllaw

Gwobrau Bionet 2024

Venue Cymru, Llandudno, LL30 1BB

1 Chwefror 2025

Parhaus

Scroll Down

Cefndir

Eto eleni byddwn y cynnal y Gwobrau Bionet i ddathlu gwaith pobl leol, cymunedau, sefydliadau a busnesau yng Ngogledd Ddwyrain Cymru i gadw, gwarchod a gwella bioamrywiaeth.

Mae Bionet yn credu ei bod yn bwysig dathlu’r llwyddiannau a gyflawnwyd dros fioamrywiaeth. Yng ngoleuni’r argyfwng ecolegol, mae llawer o’r newyddion rydym yn ei glywed yn negyddol, ond mae llawer o bobl yn cael effaith bositif drwy gamau gweithredu lleol.

Rhennir y gwobrau yn 8 categori i ddangos sut y gall camau gweithredu gwahanol gael effaith bositif ar fioamrywiaeth mewn llawer o wahanol sectorau.

Categorïau:

  1. Gwobr Unigolyn Ifanc
  2. Gwobr Grŵp Cymunedol
  3. Gwobr Ysgol Gynradd
  4. Gwobr Ysgol Uwchradd
  5. Gwobr Busnes
  6. Gwobr Datblygiad sy’n gyfeillgar i fioamrywiaeth
  7. Cyngor Tref neu Gymuned
  8. Gwobr Gwirfoddolwr

Seremoni gwobrwyo

Cynhelir y seremoni gwobrwyo ar 1 Chwefror 2025 yn Venue Cymru, Llandudno pan gyflwynir pob enillydd a chant gyfle i ddangos eu gwaith.

Dyddiad cau: 1 Rhagfyr 2024

Ffurflenni cais a Dogfennau Canllaw

Cliciwch ar y ddolen i gwblhau cais: https://arcg.is/5uum1.

Mae’r ffurflen gais hefyd ar gael mewn fformat dogfen eiriau. E-bostiwch biodiversity@flintshire.gov.uk.

Instagram

Edrychwch beth sydd wedi bod yn mynd ymlaen

Cysylltwch â ni

  • This field is for validation purposes and should be left unchanged.