Safleoedd Blodau Gwyllt

Cei Connah: I’r de o’r Llyfrgell

Safle a reolir gan Cyngor Sir Y Fflint a Groundwork

Cei Connah, Sir Y Fflint

30m² / 50m²

Scroll Down

Disgrifiad o’r Safle

Crëwyd dwy ddôl ar y gofod gwyrdd trefol y tu ôl i Lyfrgell Cei Connah yn defnyddio tywarchen o flodau gwyllt. Crëwyd yr ardaloedd blodau gwyllt hyn yn 2019 yn defnyddio tywarch brodorol gan y cwmni Wildflower Turf Ltd.

Mae’r safleoedd hyn yn brosiect partneriaeth rhwng Cyngor Sir Y Fflint a Groundwork gydag ardaloedd yn cael eu rheoli a’u cynnal gan Groundwork.

 

 

Rhywogaethau sy’n bresennol

Peradyl yr Hydref
(Scorzoneroides autumnalis)
Cribau San Ffraid
(Stachys officinalis)
Gludlys Codrwth
(Silene vulgaris)
Pysen-y-Ceirw
(Lotus corniculatus)
Glas yr Ŷd
(Centaurea cyanus)
Blodyn Neidr
(Silene dioica)

Trefn Rheoli

Bydd y safle blodau gwyllt hwn yn cael ei reoli trwy torri’r glaswellt a’i gasglu unwaith y flwyddyn rhwng mis Awst a mis Hydref. Mae’n hanfodol bod y toriadau’n cael eu casglu a’u cludo oddi yno. Mae hyn yn lleihau ffrwythlondeb a ‘grym’ y glaswellt o flwyddyn i flwyddyn, sydd o gymorth i rywogaethau blodeuog lluosflwydd barhau i sefydlu.

Dyddiad yr arolwg diwethaf

13/06/2024

Nodiadau: Parhau â rheolaeth bresennol

Os hoffwch gofnodi’r bywyd gwyllt a welwch ar y safle, cyflwynwch eich cofnodion yma.

Safleoedd Blodau Gwyllt Cei Connah: I’r de o’r Llyfrgell

I weld y safle ar golwg stryd google cliciwch yma.

Ewch i weld rhai o’n safleoedd blodau gwyllt eraill

Lleoliadau cyfagos

Hoffem wybod eich barn

Os hoffech i ni wybod eich safbwyntiau ar y safle anfonwch e-bost atombiodiversity@flintshire.gov.uk.

Instagram

Edrychwch beth sydd wedi bod yn mynd ymlaen