Safle blodau gwyllt

Yr Wyddgrug: Dôl Coronation Neuadd y Sir

Safle a reolir gan Cyngor Sir Y Fflint

Yr Wyddgrug, Sir Y Fflint

8000m²

Scroll Down

Disgrifiad o’r Safle

Mae’r ddôl blodau gwyllt wedi’i lleoli o flaen y maes parcio yn Neuadd y Sir yn cael ei rheoli fel dôl wair gyda thoriad hwyr yn y tymor a chasglu toriadau ers 2012. Ym Medi 2017, cafodd y safle ei wella yn defnyddio gwair gwyrdd o gae Kipper, Cymau, sy’n ddôl bychan yn uchel i fyny ar lethr de-orllewin Mynydd Yr Hôb. I gael rhagor o wybodaeth, cliciwch yma. Yn ystod misoedd yr haf dylech allu gweld rhai o’r rhywogaethau canlynol.

 

Rhywogaethau sy’n bresennol

Cribell Felen
(Rhinanthus minor)
Tegeirian Brych
(Dactylorhiza fuchsii)
Tamaid y Cythraul
(Succisa pratensis)
Y Bengaled
(Centaurea nigra)
Peradyl Garw
(Leontodon hispidus)
Meillionen Goch
(Trifolium pratense)

Trefn Rheoli

I ddechrau fe gafodd y dôl wair ei rheoli yn defnyddio dull traddodiadol o bladuro. Mae sawl gweithdy bladuro yn cael eu rhedeg gan Ymddiriedolaeth Bywyd Gwyllt Gogledd Cymru. Heddiw mae’r safle blodau gwyllt hwn yn cael ei reoli trwy beidio â thorri’r gwair mor aml. Mae hyn yn golygu torri’r glaswellt a’i gasglu unwaith y flwyddyn rhwng mis Awst a mis Medi. Mae’n hanfodol bod y toriadau’n cael eu casglu a’u cludo oddi yno. Mae hyn yn lleihau ffrwythlondeb a ‘grym’ y glaswellt o flwyddyn i flwyddyn, sydd o gymorth i rywogaethau blodeuog lluosflwydd barhau i sefydlu.

Dyddiad yr arolwg diwethaf

01/08/2023

Nodiadau: Parhau â rheolaeth bresennol

Os hoffwch gofnodi’r bywyd gwyllt a welwch ar y safle, cyflwynwch eich cofnodion yma.

Lleoliad safle blodau gwyllt Yr Wyddgrug: Dôl Coronation Neuadd y Sir

I weld y safle ar golwg stryd google cliciwch yma.

Ewch i weld rhai o’n safleoedd blodau gwyllt eraill

Lleoliadau cyfagos

Hoffem wybod eich barn

Os hoffech i ni wybod eich safbwyntiau ar y safle anfonwch e-bost atom biodiversity@flintshire.gov.uk.

Instagram

Edrychwch beth sydd wedi bod yn mynd ymlaen