Safle blodau gwyllt

Yr Wyddgrug: Cae Kendricks

Safle a reolir gan Cyngor Sir y Fflint – Strydwedd

Yr Wyddgrug, Sir Y Fflint

150m²

Scroll Down

Disgrifiad o’r Safle

Mae’r ddôl luosflwydd wedi’i chreu ar gae Kendricks ar hyd Ffordd Rhuthun, Yr Wyddgrug yn defnyddio tywarchen blodau gwyllt. Crëwyd yr ardaloedd blodau gwyllt hyn yn 2021 yn defnyddio tywarch brodorol gan y cwmni Wildflower Turf Ltd.  Yn ystod misoedd yr haf dylech allu gweld rhai o’r rhywogaethau canlynol.

 

Rhywogaethau sy’n bresennol

Pig-yr-Aran y Weirglodd
(Geranium pratense)
Cribau San Ffraid
(Stachys officinalis)
Gludlys Codrwth
(Silene vulgaris)
Briwydd Felen
(Galium verum)
Plucen Felen
(Anthyllis vulneraria)
Llygad-Llo Mawr
(Leucanthemum vulgare)

Trefn Rheoli

Bydd y safle blodau gwyllt hwn yn cael ei reoli trwy torri’r glaswellt a’i gasglu unwaith y flwyddyn rhwng mis Awst a mis Hydref. Mae’n hanfodol bod y toriadau’n cael eu casglu a’u cludo oddi yno. Mae hyn yn lleihau ffrwythlondeb a ‘grym’ y glaswellt o flwyddyn i flwyddyn, sydd o gymorth i rywogaethau blodeuog lluosflwydd barhau i sefydlu.

Dyddiad yr arolwg diwethaf

13/06/2024

Nodiadau: Parhau â rheolaeth bresennol

Os hoffwch gofnodi’r bywyd gwyllt a welwch ar y safle, cyflwynwch eich cofnodion yma.

Lleoliad safle blodau gwyllt Yr Wyddgrug: Cae Kendricks

I weld y safle ar golwg stryd google cliciwch yma.

Ewch i weld rhai o’n safleoedd blodau gwyllt eraill

Lleoliadau cyfagos

Hoffem wybod eich barn

Os hoffech i ni wybod eich safbwyntiau ar y safle anfonwch e-bost atom biodiversity@flintshire.gov.uk.

Instagram

Edrychwch beth sydd wedi bod yn mynd ymlaen