Safle blodau gwyllt

Cei Connah: Llyfrgell

Safle a reolir gan Cyngor Sir y Fflint – Strydwedd

Cei Connah, Sir Y Fflint

40m²

Scroll Down

Disgrifiad o’r Safle

Crëwyd dwy ddôl luosflwydd ar y gofod gwyrdd trefol o flaen Llyfrgell Cei Connah yn defnyddio tywarchen o flodau gwyllt. Crëwyd yr ardal blodau gwyllt yn 2021 yn defnyddio tywarchen blodau gwyllt Lindum.  Yn ystod misoedd yr haf dylech allu gweld rhai o’r rhywogaethau canlynol.

 

Rhywogaethau sy’n bresennol

Erwain
(Filipendula ulmaria)
Clafrllys y Maes
(Knautia arvensis)
Gludlys Codrwth
(Silene vulgaris)
Pysen-y-Ceirw
(Lotus corniculatus)
Bwrned
(Sanguisorba Minor)
Blodyn Neidr
(Silene dioica)

Trefn Rheoli

Bydd y safle blodau gwyllt hwn yn cael ei reoli trwy torri’r glaswellt a’i gasglu unwaith y flwyddyn rhwng mis Awst a mis Hydref. Mae’n hanfodol bod y toriadau’n cael eu casglu a’u cludo oddi yno. Mae hyn yn lleihau ffrwythlondeb a ‘grym’ y glaswellt o flwyddyn i flwyddyn, sydd o gymorth i rywogaethau blodeuog lluosflwydd barhau i sefydlu.

Dyddiad yr arolwg diwethaf

13/06/2024

Nodiadau: Parhau â rheolaeth bresennol

Os hoffwch gofnodi’r bywyd gwyllt a welwch ar y safle, cyflwynwch eich cofnodion yma.

Cei Connah: Llyfrgell

I weld y safle ar golwg stryd google cliciwch yma.

Ewch i weld rhai o’n safleoedd blodau gwyllt eraill

Lleoliadau cyfagos

Hoffem wybod eich barn

Os hoffech i ni wybod eich safbwyntiau ar y safle anfonwch e-bost atom biodiversity@flintshire.gov.uk.

Instagram

Edrychwch beth sydd wedi bod yn mynd ymlaen