Safle blodau gwyllt

Gwaenysgor Cae’r Llan

Safle a reolir gan Prosiect mewn partneriaeth â Chyngor Sir y Fflint, Ymddiriedolaeth Bywyd Gwyllt Gogledd Cymru a Grŵp Cadwraeth Gwaenysgor.

Gwaenysgor, Sir Y Fflint

50m²

Scroll Down

Disgrifiad o’r Safle

Crëwyd y ddôl luosflwydd ar y gofod gwyrdd ar gae’r llan, Gwaenysgor yn defnyddio hadau blodau gwyllt. Crëwyd ardaloedd blodau gwyllt yn 2021 yn defnyddio cymysgedd peillio blodau gwyllt ‘Habitat Aid’ (Superior Pollen and Nectar Wildflower Seed Mix).

Yn ystod misoedd yr haf dylech allu gweld rhai o’r rhywogaethau canlynol.

 

Rhywogaethau sy’n bresennol

Milddail
(Achillea millefolium)
Meillionen Goch
(Trifolium pratense)
Llygad-Llo Mawr
(Leucanthemum vulgare)
Plucen Felen
(Anthyllis vulneraria)
Blodyn Neidr
(Silene dioica)
Clafrllys y Maes
(Knautia arvenis)

Trefn Rheoli

Bydd y safle blodau gwyllt hwn yn cael ei reoli trwy torri’r glaswellt a’i gasglu unwaith y flwyddyn rhwng mis Awst a mis Hydref. Mae’n rhaid i Grŵp Cadwraeth Gwaenysgor dorri’r gwaith drwy ddefnyddio’r dull draddodiadol o bladuro. Yna bydd y casgliadau yn cael eu hel gan Gyngor Sir y Fflint. Mae’n hanfodol bod y toriadau’n cael eu casglu a’u cludo oddi yno. Mae hyn yn lleihau ffrwythlondeb a ‘grym’ y glaswellt o flwyddyn i flwyddyn, sydd o gymorth i rywogaethau blodeuog lluosflwydd barhau i sefydlu.

Dyddiad yr arolwg diwethaf

15/08/2023

Nodiadau: Parhau â rheolaeth bresennol

Os hoffwch gofnodi’r bywyd gwyllt a welwch ar y safle, cyflwynwch eich cofnodion yma.

Lleoliad safle blodau gwyllt Gwaenysgor Cae’r Llan

I weld y safle ar golwg stryd google cliciwch yma.

Ewch i weld rhai o’n safleoedd blodau gwyllt eraill

Lleoliadau cyfagos

Hoffem wybod eich barn

Os hoffech i ni wybod eich safbwyntiau ar y safle anfonwch e-bost atom biodiversity@flintshire.gov.uk.

Instagram

Edrychwch beth sydd wedi bod yn mynd ymlaen