Sut ydym yn bwriadu gwneud gwahaniaeth
Mae ein Cynllun Gweithredu Adfer Natur yn nodi beth fydd ein heffaith tymor byr, canolig a hirdymor ar gyfer Gwarchod Natur yng Ngogledd Ddwyrain Cymru.
Mae’n ddogfen ofodol ddeinamig, a fydd yn tyfu ac yn esblygu dros amser.
Bydd ein Cynllun Adfer Natur yn:
• Dangos ein hasedau amgylcheddol
• Dangos cyfleoedd i warchod
• Arddangos y newid sy’n cael ei gyflwyno trwy waith y bartneriaeth.
Mae ein Cynllun Gweithredu Adfer Natur yn darparu cyswllt pwysig rhwng polisi a deddfwriaethau cenedlaethol a rhanbarthol a chamau gweithredu lleol. Mae wedi cael ei ddatblygu ochr yn ochr ac i gyflenwi gwaith y Cynllun Gweithredu Adfer Natur Cenedlaethol, Datganiadau Ardal Cyfoeth Naturiol Cymru, Cynlluniau Bioamrywiaeth Adran 6 Awdurdodau Lleol a’r adroddiad SoNaRR.
Mae ein cynllun gweithredu yn canolbwyntio ar 3 cynefin allweddol i ddechrau ond byddwn yn ehangu ein data dros amser i gynnwys cynefinoedd ychwanegol a rhywogaethau pwysig lleol a grwpiau rhywogaeth.
Dod yn fuan
Lawrlwythwch gopi y gellir ei argraffu yma