Croeso i
Partneriaeth Natur Leol ar gyfer Gogledd Ddwyrain Cymru
Gwarchod, amddiffyn a hyrwyddo natur yng Ngogledd Ddwyrain Cymru
Canfyddwch sut y gallwch gymryd rhanAmdanom ni
Bionet yw enw’r Bartneriaeth Natur Leol ar gyfer Gogledd Ddwyrain Cymru sy’n cwmpasu Sir Conwy, Sir Ddinbych, Sir y Fflint a Wrecsam.
Rydym yn bartneriaeth o sefydliadau ac unigolion sy’n gweithio i warchod, amddiffyn a gwella bioamrywiaeth Gogledd Ddwyrain Cymru ar gyfer cenedlaethau heddiw a chenedlaethau’r dyfodol.
Darllenwch Ein Stori
Cynllun Adfer Natur
Mae ein Cynllun Gweithredu Adfer Natur yn nodi beth fydd ein heffaith tymor byr, canolig a hirdymor ar gyfer Gwarchod Natur yng Ngogledd Ddwyrain Cymru.
Er bod ansawdd dŵr mewn afonydd wedi gwella yn gyffredinol dros y 25 mlynedd diwethaf, dim ond 1 allan o 6 math o gynefinoedd dŵr croyw sy’n cael ei ystyried yn statws cadwraeth ffafriol.
Cymru yw un o’r gwledydd lleiaf coediog yn Ewrop lle mae coetiroedd yn gorchuddio dim ond 14.8% o’r tir o’i gymharu â chyfartaledd o 38% ar gyfer yr UE.
Glaswelltir yw bron i ddau draean o orchudd tir Cymru. Fodd bynnag mae’r rhan fwyaf o’r glaswelltir hwn wedi’i wella yn amaethyddol (wedi’i ail-hadu, gwrteithio neu ei ddraenio), a dim ond 9% ohono sy'n laswelltir lled-naturiol.
Gymryd rhan
Hoffech chi wneud rhywbeth i helpu natur yn eich ardal chi?
Yn aml mae gan ein partneriaid gyfleoedd i chi gymryd rhan trwy fynychu digwyddiadau a gweithgareddau. Gall hyn gynnwys plannu coed, monitro rhywogaethau penodol, diwrnodau hwyl bywyd gwyllt, cyrsiau hyfforddi wyneb yn wyneb neu ar-lein. Ymgyrchoedd cenedlaethol y gallwch gymryd rhan ynddynt yn eich ardal leol. Gwiriwch y dudalen hon am ddigwyddiadau a gweithgareddau sydd ar y gorwel.
Cymerwch ranAdnoddau