Cynllun Gweithredu Adfer Natur
Sut ydym yn bwriadu gwneud gwahaniaeth
Cynllun Gweithredu Natur
Mae ein Cynllun Gweithredu Adfer Natur yn nodi beth fydd ein heffaith tymor byr, canolig a hirdymor ar gyfer Gwarchod Natur yng Ngogledd Ddwyrain Cymru.
Mae’r Cynllun Gweithredu Adfer Natur (NRAP) ar gyfer y rhanbarth Bionet wedi’i ddatblygu i ddarparu fframwaith trosfwaol ar gyfer unrhyw un sy’n cyflawni camau i gadw, diogelu a gwella natur yng Ngogledd Ddwyrain Cymru. Mae’r fframwaith yn canolbwyntio ar 4 math o gynefin eang; Coetir, Gwlypdir, Glaswelltir ac Arfordir. Mae’r NRAP Bionet yn ddogfen ar-lein rhyngweithiol a dynamig sy’n cynnwys cyfres o fapiau rhyngweithiol yn dangos cynnydd ymdrechion cadwraeth dros amser. Mae’r ddogfen wedi cael ei dylunio i fod yn hygyrch i bawb a bydd data o ystod eang o ffynonellau yn cael ei ychwanegu i gael dealltwriaeth well o beth yw prosiectau presennol a nodi cyfleoedd ar gyfer gweithredu pellach.
Gorolwg o Fathau o Gynefinoedd Eang
Isod rydym yn nodi’r pedwar math o gynefin eang wedi eu categoreiddio o fewn yr NRAP Bionet a rhoi gorolwg o’r prif bwysau a wynebir gan bob un. Mae targedau wedi eu nodi ar gyfer y tymor byr (12 mis), tymor canolig (1 – 5 mlynedd) a’r hirdymor (5 mlynedd a mwy).
Argymhellir bod holl gamau i wella, cadw a diogelu natur yn dilyn y fframwaith DECCA a luniwyd gan Gyfoeth Naturiol Cymru ar gyfer Gwydnwch Ecosystem. Mae ecosystem yn grŵp o organebau rhyng-gysylltiol (anifeiliaid, planhigion, micromau ac ati) a’r amgylchedd corfforol a ganfyddir yn yr ardal benodol ble maent yn bodoli. Mae enghreifftiau o ecosystemau yn cynnwys afonydd, coetiroedd a glaswelltiroedd.
Mae ecosystemau cedyrn yn medru delio â phwysau a’r galw, naill ai drwy ei wrthsefyll, adfer yn ei sgil neu addasu iddo a dal i ddarparu gwasanaethau a buddion yn awr ac yn y dyfodol. Elfennau o ecosystem gwydn yw:
Amrywiaeth – ar amrywiaeth o lefelau a graddfeydd gwahanol, gan gynnwys amrywiaeth genetig, amrywiaeth rhywogaeth, amrywiaeth o fewn a rhwng ecosystemau ac amrywiaeth strwythurol er enghraifft.
Maint – ble mae ei ardal yn ddigon mawr i gynnal poblogaethau, cefnogi prosesau ecolegol ac ymdopi gydag effeithiau ymyl negyddol fel ysglyfaethu.
Cyflwr – ble mae effeithiau pwysau a’r galw yn cael eu rheoli’n gadarnhaol fel bod yr amgylchedd corfforol yn gallu cefnogi ystod gynhwysfawr o organebau a phoblogaethau iach.
Cysylltedd – ble mae organebau yn gallu symud o fewn a rhwng ecosystemau gwahanol, o fforio neu fudo unigolion, i wasgaru hadau a genynnau, i’r symud mwyaf o boblogaeth rhywogaethau i addasu i hinsawdd sy’n newid.
Agweddau o wydnwch ecosystem – mae gwydnwch ecosystem yn cael ei ystyried fel cynnyrch o’r pedwar nodwedd uchod a’u nodwedd addasrwydd, gwytnwch neu adfer o’r pwysau a’r galw a ddaw drwy wydnwch Ecosystem o ganlyniad i gydadwaith rhwng yr agweddau hyn, gan ganiatáu i ecosystemau addasu, adfer a gwrthsefyll pwysau a’r galw yn fwy rhwydd.
Er bod ansawdd dŵr mewn afonydd wedi gwella yn gyffredinol dros y 25 mlynedd diwethaf, dim ond 1 allan o 6 math o gynefinoedd dŵr croyw sy’n cael ei ystyried yn statws cadwraeth ffafriol.
Cymru yw un o’r gwledydd lleiaf coediog yn Ewrop lle mae coetiroedd yn gorchuddio dim ond 14.8% o’r tir o’i gymharu â chyfartaledd o 38% ar gyfer yr UE.
Glaswelltir yw bron i ddau draean o orchudd tir Cymru. Fodd bynnag mae’r rhan fwyaf o’r glaswelltir hwn wedi’i wella yn amaethyddol (wedi’i ail-hadu, gwrteithio neu ei ddraenio), a dim ond 9% ohono sy'n laswelltir lled-naturiol.
Mae’r rhanbarth Bionet yn cynnwys cynefinoedd arfordirol a morol o fewn siroedd Conwy, Sir Ddinbych a Sir y Fflint yn ymestyn oddeutu 125 cilomedr