Gymryd rhan
Hoffech chi wneud rhywbeth i helpu natur yn eich ardal chi
• Digwyddiadau a Gweithgareddau: Yn aml mae gan ein partneriaid gyfleoedd i chi gymryd rhan trwy fynychu digwyddiadau a gweithgareddau. Gall hyn gynnwys plannu coed, monitro rhywogaethau penodol, diwrnodau hwyl bywyd gwyllt, cyrsiau hyfforddi wyneb yn wyneb neu ar-lein. Ymgyrchoedd cenedlaethol y gallwch gymryd rhan ynddynt yn eich ardal leol. Gwiriwch y dudalen hon am ddigwyddiadau a gweithgareddau sydd ar y gorwel.
• Gwirfoddoli: Mae gennym amryw o gyfleoedd i wirfoddoli bob amser a hynny ar gyfer gwirfoddolwyr profiadol a llai profiadol. Mae gweithgareddau grŵp lle gallwch fwynhau bod yn rhan o dîm sy’n cyfarfod yn rheolaidd i wirfoddoli hefyd a gallwch wirfoddoli ar adegau sy’n gyfleus yn eich bywyd. Y dewisiadau yw rheoli cynefinoedd i’w gwarchod, cynnal arolygon o rywogaethau, plannu coed i gefnogi gwaith rheoli parciau.
• Helpu natur yn eich ardal leol: Mae’ch gardd bob amser yn lle da i ddechrau helpu bywyd gwyllt yn eich ardal leol. Gweler ein hadran adnoddau am fwy o wybodaeth ynglŷn â sut i helpu byd natur yn lleol.
• Cofnodi’r bywyd gwyllt a welwch: Mae cynnal arolygon a chofnodi bywyd gwyllt yn rhan bwysig o gadwraeth, gall ganfod pa rywogaethau sydd gennym yn yr ardal a thueddiadau mewn poblogaethau. Gall unrhyw un gymryd rhan (dolen gyswllt i Cofnod)
Cofnodwch eich bywyd gwyllt yma with Cofnod
Gymryd rhan
Mae angen rheoli llawer o gynefinoedd, edrychwch trwy ein prosiectau i weld a oes un yr hoffech chi gymryd rhan ynddo
Edrychwch trwy ein prosiectau a gadewch i ni wybod a hoffech chi helpu
Dilynwch ni ar gyfryngau cymdeithasol a helpwch i ledaenu'r gair
01
Mae ein gerddi yn hynod bwysig ar gyfer bywyd gwyllt, gwnewch le i fywyd gwyllt yn eich gardd trwy greu ardal wyllt. Creu ardaloedd blodau gwyllt, pentyrrau coed, pyllau. Gweler ein pecyn garddio bywyd gwyllt yn ein hadran adnoddau i gael mwy o gyngor (yn dod yn fuan)
02
Mae newid yn yr hinsawdd yn fygythiad mawr i’n bywyd gwyllt. Mae amddiffyn a helpu ein bywyd gwyllt lleol yn mynd law yn llaw â lleihau newid yn yr hinsawdd a byw’n gynaliadwy.
03
Rydym wrth ein boddau yn gweld a chlywed beth ydych chi wedi bod yn ei wneud i helpu byd natur yng Ngogledd Ddwyrain Cymru. Rhannwch eich gweithredoedd ar gyfer bywyd gwyllt gyda ni. Ymgysylltwch â ni ar gyfryngau cymdeithasol a helpwch i ledaenu’r neges