Safle blodau gwyllt
Bwcle: Lôn Drury/Cyffordd Ffordd Newydd Drury
Safle a reolir gan Cyngor Sir y Fflint – Strydwedd
Bwcle, Sir Y Fflint
100m²
Mae’r ddôl luosflwydd hon wedi’i chreu ar ymyl ochr ffordd rhwng Lôn Drury a Chyffordd Ffordd Newydd Drury ym Mwcle yn defnyddio tywarchen o flodau gwyllt. Crëwyd yr ardal blodau gwyllt yn 2021 yn defnyddio tywarchen blodau gwyllt Lindum. Yn ystod misoedd yr haf dylech allu gweld rhai o’r rhywogaethau canlynol.
Bydd y safle blodau gwyllt hwn yn cael ei reoli trwy torri’r glaswellt a’i gasglu unwaith y flwyddyn rhwng mis Awst a mis Hydref. Mae’n hanfodol bod y toriadau’n cael eu casglu a’u cludo oddi yno. Mae hyn yn lleihau ffrwythlondeb a ‘grym’ y glaswellt o flwyddyn i flwyddyn, sydd o gymorth i rywogaethau blodeuog lluosflwydd barhau i sefydlu.
Dyddiad yr arolwg diwethaf
Nodiadau: Parhau â rheolaeth bresennol. Safle am cael toriad ychwanegol yn gynnar yn y gwanwyn i leihau ‘grym’ y glaswellt.
Os hoffwch gofnodi’r bywyd gwyllt a welwch ar y safle, cyflwynwch eich cofnodion yma.
I weld y safle ar golwg stryd google cliciwch yma.
Ewch i weld rhai o’n safleoedd blodau gwyllt eraill
Os hoffech i ni wybod eich safbwyntiau ar y safle anfonwch e-bost atom biodiversity@flintshire.gov.uk.