Safle blodau gwyllt

Bwcle: Tîr comin is

Safle a reolir gan Cyngor Sir y Fflint – Cefn Gwlad

Bwcle, Sir Y Fflint

67500m²

Scroll Down

Disgrifiad o’r Safle

Mae’r ddôl luosflwydd ar dir comin is Bwcle ac yn un o’n safleoedd naturiol amrywiol. Mae gan y safleoedd amrywiol naturiol hyn eisoes fanc o hadau blodau gwyllt yn y pridd. Trwy roi’r safleoedd hyn o dan y rheolaeth gywir mae’n caniatáu i’r blodau gwyllt hyn ffynnu.

Yn ystod misoedd yr haf dylech allu gweld rhai o’r rhywogaethau canlynol.

Rhywogaethau sy’n bresennol

Briallen Fair
(Primula veris)
Meillionen Goch
(Trifolium pratense)
Pyen-y-Ceirw
(Lotus corniculatus)
Brechlys Clust Llygoden
(Cerastium vulgatum)
Blodyn Ymenyn
(Ranunculus acris)
Y Bengaled
(Centaurea nigra)

Trefn Rheoli

Bydd y safle blodau gwyllt hwn yn cael ei reoli trwy torri’r glaswellt a’i gasglu unwaith y flwyddyn rhwng mis Awst a mis Hydref. Mae casgliadau yn cael eu hel ddwywaith y flwyddyn pan mae cyllid yn caniatáu. Mae hyn yn lleihau ffrwythlondeb a ‘grym’ y glaswellt o flwyddyn i flwyddyn, sydd o gymorth i rywogaethau blodeuog lluosflwydd barhau i sefydlu.

Dyddiad yr arolwg diwethaf

01/08/2023

Nodiadau: Parhau â rheolaeth bresennol

Os hoffwch gofnodi’r bywyd gwyllt a welwch ar y safle, cyflwynwch eich cofnodion yma.

Lleoliad safle blodau gwyllt Bwcle: Tîr comin is

Ewch i weld rhai o’n safleoedd blodau gwyllt eraill

Lleoliadau cyfagos

Hoffem wybod eich barn

Os hoffech i ni wybod eich safbwyntiau ar y safle anfonwch e-bost atom biodiversity@flintshire.gov.uk.

Instagram

Edrychwch beth sydd wedi bod yn mynd ymlaen