Safle blodau gwyllt

Carmel: Ffordd Holway

Safle a reolir gan Cyngor Sir Y Fflint - Strydwedd

Carmel, Sir Y Fflint

600m²

Scroll Down

Disgrifiad o’r Safle

Mae’r ddôl luosflwydd hon wedi’i chreu ar ymyl ochr Ffordd Holway yng Ngharmel yn defnyddio tywarchen o flodau gwyllt. Crëwyd yr ardal blodau gwyllt yn 2021 yn defnyddio tywarchen blodau gwyllt Lindum. Yn ystod misoedd yr haf dylech allu gweld rhai o’r rhywogaethau canlynol.

 

Rhywogaethau sy’n bresennol

Y Feddyges Las
(Prunella Vulgaris)
Moronen y Maes
(Daucus Carota)
Gludlys Codrwth
(Silene vulgaris)
Briwydd Felen
(Galium verum)
Pysen-y-Ceirw
(Lotus Corniculatus)
Milddail
(Achullea Millefolium)

Trefn rheoli

Bydd y safle blodau gwyllt hwn yn cael ei reoli trwy torri’r glaswellt a’i gasglu unwaith y flwyddyn rhwng mis Awst a mis Hydref. Mae’n hanfodol bod y toriadau’n cael eu casglu a’u cludo oddi yno. Mae hyn yn lleihau ffrwythlondeb a ‘grym’ y glaswellt o flwyddyn i flwyddyn, sydd o gymorth i rywogaethau blodeuog lluosflwydd barhau i sefydlu.

Dyddiad yr arolwg diwethaf

25/06/2025

Nodiadau: Parhau â rheolaeth bresennol. Bwriadu torri a chasglu yn mis Gorffennaf i leihau ffrwythlondeb a ‘grym’ y glaswellt.

Os hoffwch gofnodi’r bywyd gwyllt a welwch ar y safle, cyflwynwch eich cofnodion yma.

Lleoliad safle blodau gwyllt Carmel: Ffordd Holway

I weld y safle ar golwg stryd google cliciwch yma.

Ewch i weld rhai o’n safleoedd blodau gwyllt eraill

Lleoliadau cyfagos

Hoffem wybod eich barn

Os hoffech i ni wybod eich safbwyntiau ar y safle anfonwch e-bost atom biodiversity@flintshire.gov.uk.

Instagram

Edrychwch beth sydd wedi bod yn mynd ymlaen