Safle blodau gwyllt

Carmel: Parc Celyn

Safle a reolir gan Cyngor Cymuned Chwitffordd

Carmel, Sir Y Fflint

1000m²

Scroll Down

Disgrifiad o’r Safle

Mae’r glaswelltir niwtral yn Parc Celyn yn Carmel yn un o’n safleoedd naturiol amrywiol. Mae gan y safleoedd amrywiol naturiol hyn eisoes fanc o hadau blodau gwyllt yn y pridd. Trwy roi’r safleoedd hyn o dan y rheolaeth gywir mae’n caniatáu i’r blodau gwyllt hyn ffynnu.

Yn ystod misoedd yr haf dylech allu gweld rhai o’r rhywogaethau canlynol.

Rhywogaethau sy’n bresennol

Tywodlys y Gwanwyn
(Sabulina verna)
Teim Gwyllt
(Thymus serpyllum)
Blodyn Neidr
(Silene dioica)
Brechlys Clust Llygoden
(Cerastium vulgatum)
Trilliw y Mynydd
(Viola lutea)
Briwydd Felen
(Galium verum)

Trefn rheoli

Bydd y safle blodau gwyllt hwn yn cael ei reoli trwy torri’r glaswellt a’i gasglu unwaith y flwyddyn rhwng mis Awst a mis Hydref. Mae casgliadau yn cael eu hel ddwywaith y flwyddyn pan mae cyllid yn caniatáu. Mae hyn yn lleihau ffrwythlondeb a ‘grym’ y glaswellt o flwyddyn i flwyddyn, sydd o gymorth i rywogaethau blodeuog lluosflwydd barhau i sefydlu.

Dyddiad yr arolwg diwethaf

25/06/2024

Nodiadau: Parhau â rheolaeth bresennol.

Os hoffwch gofnodi’r bywyd gwyllt a welwch ar y safle, cyflwynwch eich cofnodion yma.

Carmel: Parc Celyn

I weld y safle ar golwg stryd google cliciwch yma.

Ewch i weld rhai o’n safleoedd blodau gwyllt eraill

Lleoliadau cyfagos

Hoffem wybod eich barn

Os hoffech i ni wybod eich safbwyntiau ar y safle anfonwch e-bost atom biodiversity@flintshire.gov.uk.

Instagram

Edrychwch beth sydd wedi bod yn mynd ymlaen