Safleoedd blodau gwyllt

Higher Kinnerton: Parc Kinnerton

Safle a reolir gan Cyngor Sir y Fflint – Strydwedd

Higher Kinnerton, Sir Y Fflint

100m² / 150m²

Scroll Down

Disgrifiad o’r Safle

Crëwyd dwy ddôl luosflwydd, un yn y gogledd ac un ar ochr ddwyreiniol Parc Kinnerton, Higher Kinnerton. Crëwyd y ddôl yn 2022 yn defnyddio cymysgedd o hadau boston BSXM aml bwrpas 70/30. Yng ngaeaf 2022, cafodd y safle ei wella drwy dros hadu gyda chymysgedd hadau gwrychoedd a chysgod ysgafn BS7P 100% gan hadau Boston.

Yn ystod misoedd yr haf dylech allu gweld rhai o’r rhywogaethau canlynol.

 

Rhywogaethau sy’n bresennol

Blodyn Ymenyn
(Ranunculus acris)
Y Bengaled
(Centaurea nigra)
Gludlys Gwyn
(Silene latifolia)
Glas yr Ŷd
(Centaurea cyanus)
Bwrned
(Sanguisorba minor)
Briallen Fair
(Primula veris)

Trefn Rheoli

Bydd y safle blodau gwyllt hwn yn cael ei reoli trwy torri’r glaswellt a’i gasglu unwaith y flwyddyn rhwng mis Awst a mis Hydref. Mae’n hanfodol bod y toriadau’n cael eu casglu a’u cludo oddi yno. Mae hyn yn lleihau ffrwythlondeb a ‘grym’ y glaswellt o flwyddyn i flwyddyn, sydd o gymorth i rywogaethau blodeuog lluosflwydd barhau i sefydlu.

 

dyddiad yr arolwg diwethaf

24/06/2024

Nodiadau: Parhau â rheolaeth bresennol

Os hoffwch gofnodi’r bywyd gwyllt a welwch ar y safle, cyflwynwch eich cofnodion yma.

Lleoliad safleoedd blodau gwyllt Higher Kinnerton: Parc Kinnerton

Ewch i weld rhai o’n safleoedd blodau gwyllt eraill

Lleoliadau cyfagos

Hoffem wybod eich barn

Os hoffech i ni wybod eich safbwyntiau ar y safle anfonwch e-bost atom biodiversity@flintshire.gov.uk.

 

Instagram

Edrychwch beth sydd wedi bod yn mynd ymlaen