Wild Ground Gogledd Cymru
Cwrdd â’r Amffibiaid
Awst 2016
Parhaus
Ffocws
Mae Cwrdd â’r Amffibiaid yn brosiect a ariennir gan y Loteri Dreftadaeth i ganolbwyntio ar y pump rhywogaeth brodorol o amffibiaid a welir yn eang yng Ngogledd Ddwyrain Cymru ac y mae pobl yn fwy tebygol o ddod ar eu traws yn y rhanbarth: madfall ddŵr gribog, broga, llyffant dafadennog, madfall ddŵr gyffredin a madfall ddŵr balfog.
Bydd y prosiect yn ymgysylltu ag amrywiaeth eang o bobl gyda’r nod o gynyddu dealltwriaeth a chefnogaeth i amffibiaid a natur, hwyluso cynhwysiant grwpiau sy’n wynebu rhwystrau i ymgysylltu â threftadaeth, a gwella amodau i amffibiaid yn ein gwarchodfeydd ledled Gogledd Ddwyrain Cymru. Caiff buddion cadwraeth hanfodol eu cyflawni trwy gyfuno gwella cynefinoedd a chynnal arolygon bywyd gwyllt.