Enillwyr Gwobrau Bionet 2024
Gogledd Ddwyrain Cymru
2024
Prosiect wedi'i gwblhau
Nod y gwobrau Bionet yw ddathlu gwaith pobl leol, cymunedau, sefydliadau a busnesau yng Ngogledd Ddwyrain Cymru i gadw, gwarchod a gwella bioamrywiaeth.
Mae Bionet yn credu ei bod yn bwysig dathlu’r llwyddiannau a gyflawnwyd dros fioamrywiaeth. Yng ngoleuni’r argyfwng ecolegol, mae llawer o’r newyddion rydym yn ei glywed yn negyddol, ond mae llawer o bobl yn cael effaith bositif drwy gamau gweithredu lleol.
Rhennir y gwobrau yn 8 categori i ddangos sut y gall camau gweithredu gwahanol gael effaith bositif ar fioamrywiaeth mewn llawer o wahanol sectorau.
Hoffwn llongyfarch y enillwyr canlynol:
Enillydd: Arddwyr Cymunedol Holt
O ran ein Gwobr Grŵp Cymunedol, cawsom geisiadau ardderchog eleni. Cafodd Gwobr Grŵp Cymunedol ei gyflwyno Arddwyr Cymunedol Holt!
Mae gardd gymuned Holt yn darparu sawl ffynhonnell o fwyd i anifeiliaid di-asgwrn-cefn drwy blannu o eirlysiau a chrocws yn ystyrlon ar gyfer pryfed peillio cynnar, yn ogystal â stoc ag arogl i ddenu pryfed sy’n hedfan yn y nos. Maent wedi datblygu dau ddôl blodau gwyllt lle na chaniateir torri gwair, wrth ochr yr afon o amgylch y maes parcio gerllaw – gan gynyddu blodau gwyllt brodorol a phoblogaeth anifeiliaid di-asgwrn cefn sy’n dibynnu arnynt, yn cynnwys gwas y neidr clwbgwt sydd dan fygythiad sydd yn bresennol yn yr ardal yma. Yn ogystal â gosod sawl blwch adar, blwch ystlumod, tai i ddraenogod, a gwrychoedd i ddarparu cartrefi i fywyd gwyllt ar draws eu pentref.
Llongyfarchiadau i bawb sydd wedi cymryd rhan, ni allwn aros i gael clywed am yr holl waith sydd wedi ei drefnu ar gyfer y dyfodol.
Enillydd: Ysgol Esgob Morgan
Mae Bionet yn cydnabod grym disgyblion ac athrawon yn ein hysgolion lleol ac roeddem eisiau tynnu sylw at y gwaith ardderchog sy’n cael ei gyflawni yn ein sefydliadau addysgol lleol. Mae ein Gwobr Ysgol Gynradd yn mynd i Ysgol Esgob Morgan.
Mae Ysgol Esgob Morgan wedi gwneud gwaith ardderchog yn yr ysgol, ac mae disgyblion wedi plannu dros 900 o goed a nifer o wrychoedd, gan greu coridorau o fywyd gwyllt ar draws tir yr ysgol. Fe wnaethant hefyd adfer pwll a gwlypdir gerllaw trwy gyflwyno planhigion dŵr a phlanhigion sy’n byw yn y dŵr a thu allan, gan greu cynefin i adar, amffibiaid ac anifeiliaid di-asgwrn-cefn fel ei gilydd, yn ogystal â gosod nifer o dai i ddraenogod!
Llongyfarchiadau i Ysgol Esgob Morgan!
Enillydd: Enfinium - Parc Adfer
Crëwyd ein gwobr fusnes er mwyn cydnabod y gwaith a wneir yn ein sefydliadau preifat ledled gogledd-ddwyrain Cymru. Mae’n bleser gennym gyflwyno Gwobr Busnes i Enfinium – Parc Adfer.
Mae Enfinium yn rhedeg ffatri prosesu gwastraff ym Mharc Adfer ar Ystâd Ddiwydiannol Glannau Dyfrdwy.
Mae yna tua 6.5 hectar o ardal wyrdd yn amgylchynu’r ffatri, a oedd yn wair oedd yn cael ei dorri nes penderfynodd Enfinium i ymuno â phartneriaeth gydag Ymddiriedolaeth Natur Gogledd Cymru ac Enfys Ecology yn 2023 i reoli’r ardal ar gyfer bioamrywiaeth. Bellach mae 2.5 hectar o laswelltir yn cael ei reoli ar gyfer bioamrywiaeth – mae 2 erw ohono wedi cael ei wella drwy gyflwyno hadau lleol a blodau gwyllt fel planhigion llenwi o warchodfeydd Safleoedd o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig ac Ymddiriedolaeth Natur Gogledd Cymru gerllaw. Mae 1.5 erw o lystyfiant yn cael ei adael heb ei dorri’n flynyddol i ddarparu cynefinoedd dros y gaeaf ar gyfer ystod eang o rywogaethau. Mae 0.25 hectar o byllau/gwlypdiroedd yn cael eu rheoli ar gyfer amrywiaeth strwythurol ac i greu safleoedd torheulo i anifeiliaid di-asgwrn-cefn ac ymlusgiaid. Yn ogystal â chreu 800m2 o gynefin mosaig agored yn cynnwys gaeafleoedd niferus, pyllau bas tymhorol a llystyfiant amrywiol.
Mae’r holl waith yma wedi arwain at gynnydd mewn bioamrywiaeth o 25% yn 2024 pan gafodd ei asesu gan Ymgynghorwr Ecolegol allanol. Am effaith!
Enillydd: Gyngor Cymuned Marchwiail
Roeddem eisiau tynnu sylw at y gwaith rhagorol sydd wedi cael ei gyflawni gan ein Cynghorau Tref a Chymuned lleol, a sut maent wedi gwella mannau lleol er mwyn i bawb allu eu mwynhau. Rydym yn falch iawn o gyflwyno Gwobr Cyngor Tref a Chymuned Bionet i Gyngor Cymuned Marchwiail.
Ym Marchwiail fe weithiodd y Cyngor Cymuned yn agos gyda Chyngor Wrecsam i blannu 2100 o goed llydanddail brodorol i greu coetir cymunedol mewn man gwyrdd nad oedd yn cael ei ddefnyddio cyn hynny! Cafodd gwirfoddolwyr a grwpiau o’r pentref, ysgol gynradd leol, a grŵp sgowtiaid eu trefnu gan y Cyngor Cymuned, ac mae yna gynlluniau i blannu coedwig frodorol â phlanhigion llenwi yn yr ardal dros y blynyddoedd sydd i ddod.
Llongyfarchiadau i bawb a oedd yn rhan o’r gwaith rhagorol a gyflawnwyd gan Gyngor Cymuned Marchwiail!
Enillydd: Alex Ruck
Crëwyd Gwobr Gwirfoddolwr i amlygu gwaith ac ymroddiad un unigolyn i adferiad a chadwraeth natur. Rydym yn falch iawn o gyflwyno’r wobr Gwirfoddolwr Bionet i Alex Ruck.
Mae Alex wedi bod yn wirfoddolwr ymroddedig gyda Wild Grount yng Ngwarchodfa Natur Dyffryn Rhydymwyn am 3 blynedd. Yn y cyfnod yma, mae wedi bod yn rhan o ystod o weithgareddau i roi hwb i fioamrywiaeth megis:
Mae’r ymroddiad arbennig yn cael ei nodi ac rydym eisiau diolch i Alex a’i longyfarch am roi o’i amser i helpu ein bywyd gwyllt gwych.
Enillydd: Ysgol Y Gogarth
Disgyblion a staff Ysgol Y Gogarth yw enillwyr ein Gwobr Ysgol Uwchradd eleni!
Eleni, mae’r ysgol wedi adfywio ac ehangu ardal yr ardd gyda gwelyau plannu uchel, sydd bellach yn cael eu defnyddio i dyfu cynnyrch i’w rannu gyda’r gymuned leol gan ddefnyddio arferion sy’n gyfeillgar i’r amgylchedd. Maen nhw hefyd wedi creu dôl o flodau gwyllt lle na fydd y gwair yn cael ei dorri, ac mae 50 o rywogaethau blodau gwyllt gwahanol eisoes wedi cael eu recordio! Maent hefyd wedi plannu perllan ar dir yr ysgol. Am flwyddyn brysur!
Llongyfarchiadau i Ysgol Y Gogarth!