Awdurdodau Lleol a phartneriaid
Mwy o ddolydd
Gogledd Ddwyrain Cymru
Mawrth 2020
Parhaus
Ffocws
Mae bron i bob un o’n cynefinoedd dolydd blodau gwyllt gwerthfawr wedi diflannu.
Mae’r prosiect hwn yn brosiect amrywiol iawn i wella rheolaeth glaswelltir ar draws yr ystâd gyhoeddus ac mae’n cyflwyno blodau gwyllt lle bo hynny’n briodol.
Rydym yn gweithredu, gwneud gwaith mapio newydd a chynnal arolygon, dulliau newydd o reoli a chyflwyno blodau gwyllt mewn ardaloedd trefol priodol.
Er bod Cynghorau Gogledd Ddwyrain Cymru yn cydweithio ar y prosiect hwn, bydd dulliau gweithredu yn amrywio ar draws y rhanbarth.
Mae cyfran fawr o’r gwaith hwn wedi cael ei ariannu gan gyllid grant Llywodraeth Cymru.
Mae’r map hwn yn dangos camau gweithredu prosiect ar draws y pedwar Awdurdod Lleol Bionet.
O fewn ein Cynllun Gweithredu Adfer Natur, fe argymhellir bod yr holl brosiectau yn dilyn y fframwaith DECCA a luniwyd gan Gyfoeth Naturiol Cymru ar gyfer Gwydnwch Ecosystem. Isod fe geir datganiad DECCA ar gyfer y Prosiect Mwy o Ddolydd.
Amrywiaeth – mae’r newid i reoli torri a chasglu yn lleihau ffrwythlondeb pridd ac yn rhoi cyfle i flodau gwyllt gystadlu yn erbyn y glaswellt. Mae gwaith cadwraeth ymarferol gydag ysgolion, grwpiau cymunedol a phreswylwyr lleol wedi cynnwys plannu blodau gwyllt a hadau lleol i greu dolydd llawn rhywogaethau sy’n cefnogi ystod eang o fywyd gwyllt.
Maint – hyd yma, mae’r prosiect wedi creu dros 180 erw o gynefin dolydd blodau gwyllt ar draws 280 safle ledled Gogledd Ddwyrain Cymru, yn arbennig mewn lleoliadau trefol a lled-drefol.
Cyflwr – mae pob safle yn cael ei reoli mewn ffordd sy’n helpu i fynd i’r afael â’r bygythiadau mwyaf sy’n wynebu ein cynefinoedd glaswelltir. Mae rheoli torri a chasglu yn lleihau ffrwythlondeb y pridd i greu mwy o lastir cyfoethog o ran rhywogaethau, mae’r defnydd o chwynladdwr wedi’i atal o reoli safleoedd, mae sbwriel yn cael ei gasglu cyn y gwaith torri gan ganolbwyntio ar dyfu rhywogaethau brodorol o hadau lleol lle bo’n bosibl a gweithgareddau gwella cynefin.
Cysylltedd – mae’r safleoedd wedi’u lledaenu ar draws Gogledd Ddwyrain Cymru ac yn ymestyn dros y pedwar awdurdod lleol, ac yn gweithredu fel cerrig camu i fywyd gwyllt symud drwy’r tirwedd. Ochr yn ochr â thorri ymyl bioamrywiaeth, mae’r prosiect wedi creu rhwydwaith o laswelltir cysylltiol a reolir mewn ffordd fwy cyfeillgar i fywyd gwyllt.
Agweddau o wydnwch ecosystem – fel yr amlinellwyd uchod a yw’r holl agweddau o wydnwch ecosystem wedi eu hystyried i sicrhau bod y prosiect hwn yn helpu i gyflawni adferiad natur lleol.
Conwy – charley.howes@conwy.gov.uk
Sir Ddinbych – biodiversity@denbighshire.gov.uk
Sir y Fflint – biodiversity@flintshire.gov.uk
Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam – Localplacesfornature@wrexham.gov.uk