Afonydd, Pyllau a Gwlyptiroedd

Camau Gweithredu ar gyfer Afonydd, Pyllau a Gwlyptiroedd yng Ngogledd Ddwyrain Cymru

Yr Heriau

• Er bod ansawdd dŵr mewn afonydd wedi gwella yn gyffredinol dros y 25 mlynedd diwethaf, dim ond 1 allan o 6 math o gynefinoedd dŵr croyw sy’n cael ei ystyried yn statws cadwraeth ffafriol.

• Nid oedd 68% o gyrff dŵr croyw yng Ngogledd Ddwyrain Cymru yn derbyn statws cyffredinol da neu well yn 2015, y tri prif ffactor a oedd yn cyfrannu at hyn oedd llygredd o ganlyniad i arferion rheoli tir, newidiadau ffisegol a llygredd carthffosiaeth neu ddŵr gwastraff.

• Ers troad y ganrif mae niferoedd cynefinoedd glwyptir isel yng Nghymru wedi gostwng yn ddifrifol.

Afonydd, Pyllau a Gwlyptiroedd yng Ngogledd Ddwyrain Cymru

Mae gwlyptiroedd Cymru yn cynnwys corsydd, ffeniau, corstir pori, siglennydd, glaswelltiroedd corslyd sy’n gorlifo yn dymhorol a llynnoedd, pyllau ac afonydd.

Mae gan Gymru oddeutu 24,000km o afonydd a nentydd. Mae rhanbarth Bionet yn cynnwys 2 ddalgylch afon mawr; sef Afon Clwyd ac Afon Dyfrdwy.

Mae’r afon Dyfrdwy yn Ardal Gadwraeth Arbennig a dyma’r afon fwyaf yng ngogledd Cymru sydd ag arwynebedd dalgylch dros 1,800km2.
Roedd statws cyffredinol cyrff dŵr daear yn cael ei ystyried yn dda ar draws y rhan fwyaf o Ogledd Ddwyrain Cymru yn 2015.

Ein heffaith ar Afonydd, Pyllau a Gwlyptiroedd

Yn y tymor byr (12 mis)

Mapio ein cynefinoedd gwlyptir a phrosiectau cysylltiedig ledled Gogledd Ddwyrain Cymru

Tymor canolig (1-5 flynedd):

Cynyddu niferoedd cynefinoedd afonydd, pyllau a gwlyptiroedd sydd dan reolaeth ffafriol.

Hirdymor (5 mlynedd +)

Cynyddu niferoedd a gwytnwch gwlyptiroedd yng Ngogledd Ddwyrain Cymru

Mae gwlyptir yn gorchuddio dim ond 3% o'r DU ond mae’n gartref i 10% o’n rhywogaethau!

Map Rhyngweithiol

Edrychwch ar ein Map o Afonydd, Pyllau a Gwlyptir

Mae’r map yn dangos ein hafonydd, pyllau a gwlyptiroedd lle mae cyfleoedd posibl i gynyddu a/neu wella’r cynefin ar gyfer natur a lle rydym eisoes yn gwneud gwahaniaeth.

Nodwch: Mae ein mapiau yn defnyddio data o amrywiaeth o ffynonellau ar-lein. Er fod data ar weithrediadau partner yn gywir hyd eithaf ein gwybodaeth ac rydym bob amser yn ceisio cael data o ffynonellau dibynadwy, ni all Bionet sicrhau cywirdeb neu chyflawnrwydd yr holl wybodaeth a gynhwysir yn ein mapiau. Mae defnyddiwr y map yn gyfrifol am benderfynu ei addasrwydd ar gyfer ei ddefnydd neu ddiben.

Cliciwch ar yr eicon siâp diemwnt i weld a chuddio haenau yn ôl yr angen.