Coetiroedd
Cynllun Adfer Natur Coetir ar gyfer Gogledd Ddwyrain Cymru
• Cymru yw un o’r gwledydd lleiaf coediog yn Ewrop lle mae coetiroedd yn gorchuddio dim ond 14.8% o’r tir o’i gymharu â chyfartaledd o 38% ar gyfer yr UE.
• Mae statws cadwraeth cyffredinol coetiroedd dynodedig Cymru yn anffafriol ac mewn 40% o goetiroedd yng Nghymru nid oes mesurau rheoli yn bodoli neu maent yn brin iawn.
• Mae coetiroedd a choed yn eithriadol o bwysig i natur ac mae ganddynt amryw o fanteision amgylcheddol eraill gan gynnwys storio carbon, rheoleiddio dŵr ac ansawdd aer a helpu i leihau effaith newid hinsawdd.
• Mae bygythiadau i goetiroedd yn cynnwys darnio, diffyg rheolaeth a phlâu a chlefydau. Bydd clefyd coed ynn yn fygythiad difrifol i’n coed ynn, ein coetiroedd a’r rhywogaethau cysylltiedig dros y blynyddoedd nesaf.
Yn gyffredinol mae lefelau gorchudd coetiroedd yng Ngogledd Ddwyrain Cymru yn is na’r cyfartaledd cenedlaethol. Mae’r lefelau gorchudd coetiroedd isaf yn siroedd Wrecsam 9.4% a Sir y Fflint 9.8% ac ychydig yn uwch yn Sir Ddinbych 11.7% a Chonwy 13.8%
Mae safleoedd coetiroedd mawr yn y rhanbarth yn cynnwys Coed Moel Fammau, Coetir Dyffryn Alyn, coedwigoedd Clocaenog a Gwydir.
Coetiroedd ar ffermydd ac ystadau gwledig yw mwyafrif y gweddill.
Ar draws y rhan fwyaf o Gymru, mae darnio coetiroedd a diffyg rheolaeth yn gostwng cyflwr a gwytnwch coetiroedd yn y rhanbarth.
Map Rhyngweithiol
Mae’r map yn dangos lle mae gan ein partneriaid brosiectau sydd eisoes yn gwneud gwahaniaeth.
Nodwch: Mae ein mapiau yn defnyddio data o amrywiaeth o ffynonellau ar-lein. Er fod data ar weithrediadau partner yn gywir hyd eithaf ein gwybodaeth ac rydym bob amser yn ceisio cael data o ffynonellau dibynadwy, ni all Bionet sicrhau cywirdeb neu chyflawnrwydd yr holl wybodaeth a gynhwysir yn ein mapiau. Mae defnyddiwr y map yn gyfrifol am benderfynu ei addasrwydd ar gyfer ei ddefnydd neu ddiben.