Ein Dull
Bellach mae gennym dros 150 o safleoedd ar draws Sir y Fflint sy’n cael eu rheoli ar gyfer blodau gwyllt a phryfed peillio. Mae ymagweddau at ardaloedd blodau gwyllt wedi amrywio ar draws Awdurdodau Lleol. Mae tystiolaeth yn cefnogi ystod o ddulliau. Ar draws Sir y Fflint mae gennym amrywiaeth o safleoedd gan gynnwys:
- Safleoedd naturiol amrywiol – lle rydym wedi dechrau rheoli’r safleoedd i warchod y banc hadau gwyllt presennol
- Safleoedd blodau gwyllt trefol (hadu, tyweirch, blodau gwyllt plwg)
- Lleihau toriad gwair
Mae’r rhain i gyd o fudd enfawr i’n peillwyr. Mae safleoedd blodau gwyllt trefol yn arbennig o fuddiol gan ddarparu cerrig camu o gynefin yn y dirwedd, yn helpu cymunedau i ailgysylltu â natur a chael gwerth esthetig uchel.
Efallai eich bod wedi gweld ein harwyddion Ardal Natur sy’n cael eu gosod i amlygu’r ardaloedd sy’n cael eu rheoli ar gyfer natur. Rydym wedi buddsoddi arian grant mewn peiriannau newydd a fydd yn casglu’r toriadau a system rheoli chwyn nad yw’n gemegol, sy’n cael ei defnyddio ar hyn o bryd gan ein ceidwad cefn gwlad a’n tîm gwasanaethau stryd.
Bydd y rhan fwyaf o’n safleoedd blodau gwyllt yn cael un toriad ar ddiwedd yr haf/dechrau’r hydref ar ôl i’r blodau gwyllt flodeuo a hadu. Bydd y toriadau yn y safleoedd yn cael eu casglu er mwyn sicrhau’r amodau cywir i flodau gwyllt barhau i dyfu.
Mewn gwirionedd, dim ond 1% o’n cynefinoedd dolydd traddodiadol sydd gennym ar ôl yn y DU. Mae hyn yn ddinistriol i gynefin sy’n un o’n cyfoethocaf o ran bioamrywiaeth. Ond dyma hefyd y rheswm y mae angen inni ganolbwyntio ar adfer cynefinoedd wrth symud ymlaen.
Mae rheoli ein cynefinoedd glaswelltir yn y ffordd gywir yn sicrhau ein bod nid yn unig yn cynnal ein peillwyr ond hefyd yn adfer cynefin naturiol hynafol ac yn gwarchod ein blodau gwyllt brodorol.